






Bwyty The Cove
Cysylltwch gyda David Smith neu Angharad ar: 07815 721757
Ein bwriad yw bod ar agor ar benwythnosau ym mis Mai yn ôl y galw, ac yn yr un modd ym mis Mehefin ac yna agor bob diwrnod am y Tymor wrth i ddigwyddiadau ayyb ddechrau cael eu cynnal yn y Clwb.
Bydd pob aelod yn dal i gael disgownt o 10% ar y fwydlen gyda’r nos fel y blynyddoedd blaenorol.
Mae Angharad a minnau yn edrych ymlaen at weld pawb dros y tymor a hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch ichi am eich cefnogaeth barhaus.
David.
Cliciwch i archebu ar-lein – ffoniwch os hoffech archebu ar gyfer heddiw
Golygfeydd Gogoneddus
Does yr un bwyty yng Nghymru mae’n debyg sydd â gwell golygfeydd na’r Cove. Cewch giniawa yng ngolwg Eryri, arfordir gorllewinol Cymru, ynysoedd St Tudwal ac, wrth gwrs, Bae Ceredigion ei hun. Gwyliwch yr hwylio neu mwynhewch yr olygfa, y cyfan tra byddwch yn eistedd mewn amgylchedd cyfeillgar. Cynigir bwydlen frecwast, cinio a swper, wedi eu coginio i safon uchel ac yn rhesymol iawn eu pris. Mae dewis cynhwysfawr o winoedd ar gael at bob dant.
|
![]() |
Mae’r Cove ar gael ar gyfer achlysuron preifat, gyda chyfleusterau arlwyo a’r bar ar gael. Cynhelir nifer o achlysuron llwyddiannus gan gynnwys partïon priodas a dathliadau pen-blwydd, heb sôn am amryw achlysuron y Clwb ei hun. |
![]() |
Beth am ichi ddewis y Cove yng Nghlwb Hwylio De Sir Gaernarfon ar gyfer eich dathliad nesaf? |
![]() |